Y Grŵp Trawsbleidiol ar Nyrsio a Bydwreigiaeth

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2013

Yn bresennol

Aelodau'r Cynulliad

Rebecca Evans AC

Darren Millar AC

Andrew RT Davies AC

David Rees AC

Staff Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Peter Meredith-Smith     Cyfarwyddwr Cyswllt (Cysylltiadau Cyflogaeth)

Martin Semple                Cyfarwyddwr Dros Dro, Coleg Nyrsio Brenhinol

Cymru

Lynne Hughes                Cynghorwr Polisi a Materion Cyhoeddus             

John Hoddinott               Cynorthwyydd Cyfryngau

Lee Anderson                 Cymorth Gweinyddol

 

Gwahoddedigion

Alison Pugh                    Arweinydd Tîm, Adran Oncoleg, Bwrdd Iechyd Lleol

Aneurin Bevan

Jane Hart                        Nyrs Arweiniol Gwasanaethau Canser, Bwrdd

Iechyd Aneurin Bevan

Yvonne Lush                   Uwch-reolwr Datblygu, Macmillan

Susan Morris                  Rheolwr Cyffredinol, Macmillan

Nicola West                    Nyrs Ymgynghorol Canolfan Gofal y Fron, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Nyrs y Flwyddyn, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2012, enillydd y Wobr Nyrs Glinigol Arbenigol.

 

Ymddiheuriadau

Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog

David Melding AC

Simon Thomas AC

Leanne Wood AC

Nick Ramsay AC

Lindsay Whittle AC

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Leighton Andrews AC

Christine Chapman AC

Andrew RT Davies AC

Mike Hedges AC

Ann Jones AC

Alun Ffred Jones AC

Lynne Neagle AC

Eluned Parrott AC

William Powell AC

Kirsty Williams AC

Julie Morgan AC

Joyce Watson AC

Carol Shillabeer             Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys.

Caroline Oakley              Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth, Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Ruth Walker                    Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Lynda Williams               Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf.                           

Yr Athro Jean White        Prif Swyddog Nyrsio Cymru

 

 

 

 

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Etholwyd Rebecca Evans AC yn Gadeirydd, ac etholwyd y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Ysgrifenyddiaeth.

 

Rôl Nyrsys Arbenigol

Cyflwynodd Martin Semple y sesiwn drwy drafod y manteision clinigol a'r manteision o ran costau o ddefnyddio Nyrsys Clinigol Arbenigol a Nyrsys Ymgynghorol. Cyfeiriodd at y papur “Nyrsys arbenigol - newid bywydau, arbed arian” (sy'n atodedig) ynghylch y dystiolaeth economaidd i ategu hyn. Cyfeiriodd hefyd at nifer o brosiectau peilot yng Nghymru sy'n arbrofi gyda hyn, a chytunwyd y byddai'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dosbarthu papur briffio am y rhain.

 

Cafwyd cyflwyniad gan Yvonne Lush, Uwch-reolwr Datblygu, Cymorth Canser Macmillan (sleidiau yn atodedig).

-          Mae'r cyfraddau canser ar gynnydd yng Nghymru.  Ar hyn o bryd mae tua 140,000 o bobl naill ai'n byw gyda chanser neu wedi gwella ohono yng Nghymru.  Erbyn 2030 bydd tua 250,000 o bobl yn byw gyda chanlyniadau triniaethau canser.

-          Y dull systemau cyfan o fynd i'r afael â'r “driniaeth gronig” hon.

-          Mae'n rhaid wrth hunanreolaeth; gweithio gyda'r corff a'r meddwl.

-          Mae angen ailddiffinio rôl gweithwyr proffesiynol a chleifion.

-          Mae Macmillan wedi buddsoddi £4 miliwn mewn staff (ar nyrsys y gwariwyd y canran uchaf o hwnnw), ond mae cynaliadwyedd ac anghenion/gwasanaethau lleol yn her.

-          Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol yn allweddol o ran hybu newid.

-          Yn adroddiad Frontier Economics (2010) nodwyd y byddai angen buddsoddiad sylweddol mewn nyrsys arbenigol a gweithwyr cymorth eraill i roi cymorth un-i-un i bawb sy'n dioddef o ganser yn Lloegr. Pe byddai cymorth un-i-un yn cael ei ddarparu, byddai angen miloedd lawer o nyrsys. Mae Macmillan yn arbrofi gyda thimau gofal wedi'u hailstrwythuro.

-           

-          Yng Nghymru, nid oes cysondeb rhwng dosbarthiad y Nyrsys Clinigol Arbenigol a nifer yr achosion o ganser.

-          Mae cleifion sy'n medru manteisio ar Nyrsys Clinigol Arbenigol yn cael profiadau gwell.

-          Bydd 'bwlch' yn yr Arolwg o Brofiadau Cleifion â Chanser yn dangos a oes unrhyw fylchau ym mhrofiadau cleifion.

-          A yw gwerth y Nyrsys Clinigol Arbenigol yn cael ei werthfawrogi? Mae Macmillan wrthi’n gwneud gwerthusiad

-          Gall Nyrsys Clinigol Arbenigol roi cleifion ar lwybr gwell/rhatach. Y cleifion sy’n cael y sylw pennaf ganddynt.

-          Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol yn darparu gofal holistaidd o'r radd flaenaf.

-          Caiff yr Arolwg o Brofiadau Cleifion â Chanser (daeth y gwaith maes i ben ym mis Medi), ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.

Soniodd Nicola West, Nyrs Glinigol Arbenigol, Canser y Fron, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, am ei rôl, a pha mor allweddol ydoedd o safbwynt gofalu am gleifion â chanser y fron.

-          Roedd Nikki wedi sefydlu'r gwasanaeth o ddim, ac erbyn hyn mae 6 Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer canser y fron ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

-          Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol yn rhoi parhad yn y gofal; gall cleifion weld yr un nyrs drwy gydol eu cyfnod gofal.

-          Maent wedi’u hyfforddi’n benodol ac yn arbenigwyr yn eu maes

-          Maent yn eiriolwyr ar gyfer cleifion:

-          Holwyd a oes gan feddygon iau, neu nyrsys cyffredinol, y sgiliau sydd eu hangen i roi gofal o’r un ansawdd a ddarperir gan Nyrsys Clinigol Arbenigol.

-          Nid adnoddau drudfawr ydynt, mae eu HANGEN arnom.

-          Mae’r cyllid yn dynn, ond mae Nyrsys Clinigol Arbenigol yn angenrheidiol.

-          Y Nyrsys Clinigol Arbenigol yw’r rhai sy’n cysylltu gyda rhywun i ddweud wrthynt nad yw eu canlyniadau’n barod oherwydd bod y gwasanaethau dan bwysau. Mae ganddyn nhw sgiliau i fynd drwy bob un cam ar y daith.

-          Mae’r Nyrsys Clinigol Arbenigol yn rhoi parhad a chymorth seicogymdeithasol.  Mae’r cymorth hwnnw mor bwysig, ond mae’n cael ei hepgor os nad oes nyrsys arbenigol ar gael.

-          Mae Nikki yn rhedeg ei chlinigau diagnostig ei hun, felly mae’n gweld cleifion ar gyfer yr asesiad cychwynnol, diagnosis, cwnsela a gofal dilynol.

-          Nid oes Nyrsys Clinigol Arbenigol ar gyfer rhai safleoedd tiwmor.

-          Nid yw gofal dilynol yn cael ei wneud yn iawn yng Nghymru; mae angen inni fod yn glir am yr amserau gorau ar gyfer mynd ar drywydd cleifion i sicrhau bod y cyfraddau afiachusrwydd a marwolaeth yn gwella.  Mae angen inni wella’r modd yr ydym yn paratoi pobl ar gyfer bywyd ar ôl canser;  mae’r system sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd yn seiliedig ar brofiad pobl o ganser flynyddoedd lawer yn ôl, nid ar brofiad pobl o ganser nawr; hynny yw, fel cyflwr y mae llawer yn byw drwyddo.

-          Ar hyn o bryd rydym yn cynnal trydydd adolygiad o rôl Nyrsys Clinigol Arbenigol.

Trafodaeth agored

-          Trafododd y Grŵp bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu'n dda.

-          Yn aml iawn, mae'r dadlau yn ymwneud â phrinder meddygon.  Mae hynny'n dangos diffyg dychymyg. Mae angen ystyried sut y gallwn ddatblygu'r gweithlu clinigol cyfan.

-          Mae angen edrych ar fwy na'r dystiolaeth economaidd am ddiogelwch cleifion. Roedd rhywfaint o bryder y gallai swyddi Nyrsys Clinigol Arbenigol gael eu colli neu eu hisraddio.

Cytunwyd y dylai'r Grŵp ystyried y mater o gynllunio gweithlu'r GIG yn fanylach ar ddyddiad diweddarach, a gwahodd y Gweinidog.